Roedd mwy na 30,000 o alwadau 999 diangen am wasanaeth ambiwlans brys yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd y galwadau’n ymwneud a mân afiechydon fel y ddannodd, dolur gwddf, peswch ac annwyd, meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething heddiw.
Rhybuddiodd y Dirprwy Weinidog fod nifer gynyddol o alwadau 999 diangen i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn tynnu adnoddau oddi ar yr achosion mwyaf difrifol, gan roi bywydau mewn perygl.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwnaed mwy na 31,000 o alwadau nad oeddent yn rhai brys am wasanaeth ambiwlans brys 999, a dim ond tri o’r rhain oedd wedi arwain at glaf yn cael triniaeth mewn ysbyty.
Nid oedd angen ambiwlans brys ar bron hanner (14,478) y galwadau hyn o gwbl.
‘Hollol annerbyniol’
“Mae nifer y galwadau diangen i’r gwasanaeth ambiwlans bob blwyddyn yn hollol annerbyniol,” meddai.
“Mae gan bobl gyfrifoldeb i ddefnyddio ein gwasanaethau GIG brys yn synhwyrol, a dylent ddeialu 999 am wasanaeth ambiwlans brys neu fynd i adran damweiniau ac achosion brys dim ond pan fydd yn achos brys gwirioneddol neu’n ddamwain ddifrifol.
“Os yw pobl yn mynd yn sâl, yna mae nifer o opsiynau ar gael iddynt dderbyn y driniaeth briodol – y meddyg teulu lleol, y fferyllfa gymunedol leol, y nyrs bractis, neu weithiwr proffesiynol arall ym maes gofal iechyd, fel ffisiotherapydd neu optegydd.
“Yn fyr, gallai galw 999 am fân afiechydon atal galwad frys sy’n fater o fywyd neu farwolaeth rhag cael ei derbyn.”
‘Meddwl ddwywaith’
Dywedodd Richard Lee, Pennaeth Gwasanaethau Clinigol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:
“Nid ydym am rwystro unrhyw un rhag galw 999, ond rydyn ni am i bobl feddwl ddwywaith cyn gwneud hynny. Yn anffodus, rydyn ni’n dal i dderbyn nifer sylweddol o alwadau amhriodol am afiechydon dibwys neu hirdymor nad yw ymateb ambiwlans yn help iddynt o gwbl.
“Cofiwch na ddylech ddeialu 999 oni bai bod rhywun yn ddifrifol wael neu wedi’i anafu’n ddifrifol.”