Mae nifer y bobol yng Nghymru sy’n colli eu cartrefi oherwydd dyledion wedi cyrraedd y ffigwr uchaf ers saith mlynedd, yn ôl elusen flaenllaw.
Yn seiliedig ar gofnodion llysoedd o achosion o feddiannu tai, dywedodd Shelter Cymru bod 2,200 o denantiaid wedi colli eu tai eleni.
Mae’r achosion o feddiannu tai wedi codi 12% dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cyrraedd y lefel uchaf ers cyn y dirwasgiad. Rhwng mis Ionawr-Mawrth y cafodd y mwyaf o bobol eu gwneud yn ddigartref, gyda 42 cartref bob wythnos yn cael eu meddiannu.
Mae’r elusen felly yn galw ar berchnogion tai i ddangos ychydig o oddefgarwch cyn y Nadolig ac i beidio a “rhuthro i’r llys” ym misoedd cyntaf y flwyddyn nesaf.
Newid i’r system
“Mae’r flwyddyn yma wedi bod yn andros o anodd i denantiaid tai cymdeithasol, gyda llawer yn dioddef o ganlyniad i newidiadau i’r system fudd-dal lles a’r cynnydd mewn costau byw,” meddai John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru.
“Mae rhai perchnogion tai yn methu cefnogi eu tenantiaid ac yn rhuthro i’r llys yn rhy gyflym. Rydym yn clywed fod rhai yn codi rhent ar deuluoedd cyn iddyn nhw symud i mewn i dy, sy’n rhoi teuluoedd mewn dyledion o’r cychwyn cyntaf.
“Eleni, efallai y gall berchnogion tai ddangos ychydig o oddefgarwch cyn y Nadolig a pheidio â rhuthro i’r llys cyn gynted y daw’r gwyliau i ben.”