Wrth i gynghorau Gwynedd a Môn ystyried codi bron i 8,000 o dai newydd, mae canlyniadau arolwg gan y ddwy sir yn dweud y byddai cyfyngu ar waith adeiladu tai yn cynyddu prisiau ac yn “annhebygol o gryfhau sefyllfa’r iaith Gymraeg”.

Cafodd yr arolwg ei gyhoeddi gan Gyngor Gwynedd, Hunaniaith, Cyngor Sir Ynys Môn ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n edrych ar y berthynas rhwng y farchnad dai a’r iaith Gymraeg.

Mae’r canfyddiadau yn groes i bryderon Cymdeithas yr Iaith sy’n dweud y byddai codi miloedd o dai newydd, heb asesu’r angen lleol yn gyntaf, yn niweidio sefyllfa’r iaith mewn cadarnleoedd.

Roedd canlyniadau’r arolwg hefyd yn awgrymu mai’r ateb yw “sicrhau’r cymysgedd cywir o fath a maint o dai newydd – fyddai’n debygol o gynorthwyo sefyllfa’r iaith.”

Mae’r gwaith ymchwil yn cynnwys cyfraniadau gan 1,559 o gartrefi ledled Gwynedd ac Ynys Môn

Rhoddwyd sylw penodol i chwe ward yng Ngwynedd a phedair ym Môn, sef Abersoch, Clynnog, De Dolgellau, Diffwys a Maenofferen, Hirael a Llanrug yng Ngwynedd, a Cyngar, Llanbadrig, Llanfihangel Ysgeifiog a Phorthyfelin ym Môn.

‘Astudiaeth bwysig’

Mae’r gwaith wedi cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg sy’n dweud y dylai’r cynghorau “ystyried y canfyddiadau yn llawn”.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Rwy’n croesawu cyhoeddiad yr arolwg hwn. Mae’n astudiaeth bwysig gan ei bod yn ymgais i gryfhau’r ddealltwriaeth o’r berthynas rhwng y farchnad dai a’r Gymraeg.

“Disgwyliaf yn awr i gynghorau Gwynedd a Môn ystyried canfyddiadau’r ymchwil yn llawn wrth lunio’r Cynllun Datblygu Lleol ac wrth asesu effaith y Cynllun ar y Gymraeg.”

‘Sail gadarn’

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg:

“Mae sicrhau dyfodol ffyniannus i’r iaith Gymraeg yn ganolog i ni. Heb os, bydd yr ymchwil manwl a chynhwysfawr yma yn rhoi sail gadarn i’r gwaith o gynllunio ieithyddol dros y blynyddoedd i ddod ac yn hynod werthfawr i’r gwaith o gefnogi cymunedau Cymraeg i ffynnu.

“Er bod nifer o’r canlyniadau yn cadarnhau llawer o’r hyn yr oeddem yn ei gredu eisoes o safbwynt y ffactorau hynny sydd yn dylanwadu ar batrymau iaith yn ein cymunedau, bydd y dystiolaeth yma yn rhoi sail gadarn i ni wrth ystyried unrhyw waith pellach sydd i’w gyflawni mewn ardaloedd penodol.”

‘Anghysondebau brawychus’

Wrth ymateb i’r arolwg dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith: “Mae’r Cynllun Datblygu ei hun yn cydnabod yn glir na fydd unrhyw godiad sylweddol ym mhoblogaeth gynhenid siroedd Gwynedd a Môn yn ystod oes y Cynllun. Canfyddiad ydi hyn felly, nad cynllun ar gyfer anghenion lleol sydd yma mewn gwirionedd.

“Mae’r arolwg ei hun yn cydnabod hefyd mai un o’r prif heriau yw annog pobl sydd yn symud i’r ardal i ddefnyddio’r Gymraeg, gyda sgiliau Cymraeg rhai sydd wedi symud o du allan i Gymru yn wannach, mae hyn yn ein tyb ni yn dangos yn glir bod anghysondebau brawychus yn bodoli yn yr adroddiad.”

“Yn syml felly, mae’r CDLL ei hun yn nodi nad cynllunio ar gyfer anghenion lleol sydd yma, a bod cymhathu’r rhai hynny sy’n symud i’r ardal o du allan i Gymru yn anodd. Sut yn y byd felly y mae cysoni’r dadleuon na fydd atal adeiladu tai yn annhebyg o gryfhau sefyllfa’r Gymraeg?”