Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cael ei holi gan ASau prynhawn ma ynglŷn â chysylltiad y DU ag achosion o arteithio brawychwyr honedig yn dilyn cyhoeddi adroddiad o ddulliau holi’r CIA.
Daw ymddangosiad Theresa May gerbron y Pwyllgor Dethol Materion Cartref wrth i’r Llywodraeth wynebu galwadau cynyddol am ymchwiliad barnwrol newydd i rôl posibl Prydain wrth drin carcharorion yn y blynyddoedd ar ôl yr ymosodiadau yn America ar 11 Medi 2001.
Mynnodd Syr Malcolm Rifkind, cadeirydd y pwyllgor cudd-wybodaeth a diogelwch, ddoe y byddai ef a’i gydweithwyr yn ymchwilio i’r mater gan fanteisio ar ryddid newydd i fynnu tystiolaeth a galw tystion – gan gynnwys y cyn-brif weinidog Tony Blair yn ôl pob tebyg.
Dywedodd Donald Campbell, llefarydd ar ran y grŵp hawliau dynol Reprieve, fod sawl cwestiwn y dylid eu gofyn i’r Ysgrifennydd Cartref gan y Pwyllgor, sy’n cael ei gadeirio gan Keith Vaz AS.
Mae Syr Malcolm hefyd wedi galw ar y Tŷ Gwyn i ddatgelu’r hyn yr oedd Llywodraeth y DU a’i asiantaethau cudd-wybodaeth wedi ei guddio yn yr adroddiad damniol a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos diwethaf gan Bwyllgor Cudd-wybodaeth Senedd yr Unol Daleithiau i ddefnydd y CIA o artaith.
‘Rhesymau diogelwch’
Mae Downing Street yn mynnu fod rhai manylion heb eu cyhoeddi am resymau diogelwch gwladol, ond dywedodd y cyn ysgrifennydd tramor ei bod hi’n bwysig darganfod a oedd bwriad i guddio datgeliadau fyddai’n codi cywilydd ar y Llywodraeth.
Dywedodd yr adroddiad fod y dulliau a ddefnyddiwyd i holi carcharorion yn dilyn 9/11 yn “llawer gwaeth” nag oedd y CIA wedi portreadu i Lywodraeth yr Unol Daleithiau.
Dywedodd Nick Clegg fod rhaid galw’r rhai “oedd wrth y llyw” ar y pryd – Tony Blair a Jack Straw – i roi tystiolaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa Tony Blair: “Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae Tony Blair wastad wedi gwrthwynebu’r defnydd o artaith, wastad wedi dweud hynny yn gyhoeddus ac yn breifat, erioed wedi caniatáu ei ddefnydd ac – fel y dangosir gan ddogfennau mewnol y Llywodraeth sydd eisoes yn gyhoeddus – yn meddwl bod hynny’n gwbl annerbyniol.
“Mae’n credu fod y frwydr yn erbyn radicaliaeth Islamaidd yn frwydr am werthoedd, a byddai gweithredu’n groes i’r gwerthoedd hynny – fel yn y defnydd o artaith – nid yn unig yn anghywir, ond yn wrthgynhyrchiol.”