Mae BT wedi cyhoeddi ei fod wedi dechrau trafodaethau i brynu rhwydwaith ffonau symudol EE mewn cytundeb a fyddai’n werth £12.5 biliwn.
Fe fyddai’r cytundeb yn creu cwmni cyfathrebu enfawr a fyddai’n cwmpasu ffonau, band llydan, ffonau symudol a theledu.
Ym mis Tachwedd, fe gyhoeddodd BT ei fod mewn trafodaethau i brynu un ai EE, sy’n berchen i Deutsche Telekom ac Orange, neu O2 sy’n berchen i gwmni Telefonica o Sbaen.