Cefnogwyr Cymru ym Mrwsel ar gyfer gem Ewrop 2016
Mae UEFA wedi rhoi rhybudd swyddogol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar ôl i gefnogwyr Cymru danio ffaglau mwg dwywaith yn ystod y gêm ddiweddar yng Ngwlad Belg.
Roedd bron i 2,400 o gefnogwyr Cymru yn Stadiwm Roi Badouin ym Mrwsel ym mis Tachwedd i weld eu tîm yn cael gêm gyfartal 0-0 yn erbyn y Belgiaid.
Ond fe gymerodd awdurdodau pêl-droed Ewrop gamau disgyblu yn erbyn CBDC ar ôl i ddwy ffagl fwg gael eu tanio yn eisteddle’r cefnogwyr oddi cartref.
Dyma’r ail waith mewn tri mis i Gymru gael eu disgyblu gan UEFA, ar ôl i gefnogwyr redeg ar y cae yn y gêm oddi cartref yn erbyn Andorra.
Ar hyn o bryd mae Cymru yn ail yn eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 ar ôl pedair gêm, ac maen nhw’n wynebu trip i Israel ym mis Mawrth 2015 ar gyfer eu gêm nesaf.
Rhybudd yn unig
Heddiw fe gadarnhaodd CBDC eu bod wedi cael rhybudd gan UEFA am y ffaglau gafodd eu cynnau gan eu cefnogwyr.
Ni losgodd yr un o’r ffaglau mwg am hir, wrth i stiwardiaid fynd â nhw oddi ar y cefnogwyr yn weddol sydyn.
Heblaw am hynny ni chafwyd unrhyw drafferth rhwng cefnogwyr Cymru a’r awdurdodau ym Mrwsel.
Ond mae CBDC eisoes wedi cael dirwy o £4,000 gan yr awdurdodau, ar ôl i gefnogwyr redeg ar y cae i ddathlu’r gôl fuddugol yn erbyn Andorra ym mis Medi yng ngêm gyntaf ymgyrch Ewro 2016.
Ac mae sefydliad cefnogwyr FSF Cymru wedi rhybuddio y gallai UEFA fod yn llawer llymach ar Gymru petai cefnogwyr yn parhau i gamymddwyn yn y dyfodol.
“Dylai cefnogwyr fod yn ymwybodol y gallai cosbau llymach gael eu rhoi gan gynnwys gorfod chwarae gemau y tu ôl i ddrysau caeedig; mae’n rhaid i bawb fod yn ymwybodol o hyn,” meddai FSF Cymru ar ôl cyfarfod â CBDC.