Mae chwe dyn wedi cael eu cyhuddo o droseddau’n ymwneud a brawychiaeth a thwyll, meddai Scotland Yard.

Cafodd y dynion, pump ohonyn nhw o Lundain, eu cyhuddo ar ôl cael eu harestio gan heddlu gwrth-frawychiaeth ym mhorthladd Dover yng Nghaint ar ddiwedd mis Tachwedd ac yn Llundain yn gynharach y mis hwn.

Fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw.

Mae Michael Coe, 33, Simon Keeler, 43, ac Anthony Small, 33, o ddwyrain Llundain wedi’u cyhuddo o baratoi a chynorthwyo eraill i baratoi gweithredoedd brawychiaeth, cefnogi sefydliad anghyfreithlon a chynllwynio i fod a dogfennau adnabod ffug.

Mae Zagum Perviaz, 35, a Hamzah Safdar, 24, hefyd o Lundain, wedi’u cyhuddo o gynllwynio i gynhyrchu a bod a dogfennau adnabod ffug yn eu meddiant.

Mae Abdulraouf Eshati, 28, sydd ddim a chyfeiriad parhaol wedi’i gyhuddo o fod ag erthyglau yn ei feddiant yn ymwneud a chomisiynu, paratoi a chyflyru gweithredoedd brawychol.