Bydd hysbyseb gan Lywodraeth Cymru sy’n targedu trais domestig yn cael ei darlledu ar y teledu dros gyfnod y Nadolig.
Mae’r clip 30 eiliad, sydd eisoes i’w weld ar wefan Byw Heb Ofn, yn dangos yr effeithiau dinistriol y gall cam-drin yn y cartref ei gael ar y teulu cyfan, yn enwedig plant.
Mae’n annog gwylwyr sy’n gwylio rhaglenni fel Coronation Street i godi llais os ydyn nhw’n credu bod rhywun maen nhw’n ei adnabod yn dioddef yn dawel.
Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews: “Mae’r Nadolig yn gyfnod hapus i’r mwyafrif helaeth o bobl, ond mae hefyd yn gyfnod o bwysau ychwanegol i lawer o bobl, fel pryderon ariannol.
“Mae hyn a’r ffaith bod pobl yn yfed mwy yn golygu mwy o achosion o gam-drin domestig.
“Mae’r hysbyseb yn gofyn i deulu a ffrindiau beidio â chamu nôl os ydyn nhw’n credu bod rheswm dros boeni, a gweithredu cyn iddi fynd yn rhy hwyr.”
Bydd yr hysbyseb yn cael ei darlledu rhwng 15 Rhagfyr a 31 Rhagfyr yn ystod y toriadau ar gyfer rhaglenni poblogaidd fel This Morning, Secret Dealers, Coronation Street a newyddion nos ITV.
Ewch i bywhebofn.org.uk i weld yr hysbyseb cyn iddi gael ei darlledu.