Bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei sefydlu yn dilyn methiant systemau yng nghanolfan rheoli traffig awyr cenedlaethol y DU (Nats) meddai Awdurdod Hedfan Sifil y DU (CAA).

Ddydd Gwener, bu’n rhaid i awyrennau ddisgwyl cyn glanio a chanslwyd nifer o deithiau yn dilyn methiant yng nghyfrifiaduron canolfan traffig awyr cenedlaethol y DU.

Dywedodd Richard Deakin, prif weithredwr Nats, bod y broblem gyda’r meddalwedd yn un anodd i’w ddarganfod oherwydd, roedd wedi ei “gladdu” ymysg miliynau o linellau o god cyfrifiadurol gafodd ei sgwennu chwarter canrif yn ôl ar safle Swanwick, Hampshire.

Mewn datganiad, dywedodd y CAA: “Bydd y CAA, mewn ymgynghoriad â Nats, yn penodi cadeirydd annibynnol ar y panel a fydd yn cynnwys arbenigwyr technegol Nats , aelod o fwrdd y CAA ac arbenigwyr annibynnol ar dechnoleg gwybodaeth, rheoli traffig awyr a gwydnwch gweithredol.”

Mae Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, eisoes wedi dweud na ddylai prif weithredwr Nats, Richard Deakin, dderbyn bonws ariannol yn dilyn y problemau.