Mae undeb wedi dechrau streic tri diwrnod mewn pum canolfan ddosbarthu Amazon yn yr Almaen, yn y diweddaraf mewn cyfres o streiciau mewn anghydfod ynglŷn â chyflogau.
Mae undeb ver.di wedi galw ar weithwyr yn Bad Hersfeld, Leipzig, Graben, Rheinberg a Werne i gynnal streic o heddiw tan yn hwyr ddydd Mercher.
Dyw’r undeb heb ddweud faint o bobl fydd yn cymryd rhan yn y streic ond mae gan Amazon fwy na 9,000 o weithwyr llawn-amser yn yr Almaen.
Mae’r undeb wedi bod yn pwyso am gyflog uwch, gan ddadlau bod gweithwyr Amazon yn derbyn cyflogau is nag eraill mewn swyddi dosbarthu tebyg.
Mae’r cwmni ar-lein yn dweud fod ei safleoedd yn yr Almaen yn ganolfannau logisteg, a bod gweithwyr yn ennill cyflog cymharol uchel ar gyfer y diwydiant hwnnw.
Er y streic, mae Amazon yn ffyddiog y gallan nhw anfon pob archeb allan cyn y Nadolig.