Fe lwyddodd pum aelod o’r un teulu, gan gynnwys bachgen tair oed, i ddianc o ystafell wely ar y llawr cyntaf, ar ôl i’w cartref gael ei roi ar dân yn fwriadol.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i’r tŷ yn Heol yn Jedburgh yn Heaton, Bolton toc wedi 2.30 y bore ma.

Roedd larwm mwg wedi deffro’r teulu ond nid oedd yn bosib iddyn nhw ddianc trwy’r drws ffrynt a bu’n rhaid iddyn nhw neidio drwy ffenest yr ystafell wely,

Fe lwyddodd dyn i neidio i’r ardd gefn a dal y bachgen bach yn ei freichiau wrth iddo neidio drwy’r ffenest.
Roedd dwy ddynes a dyn arall hefyd wedi neidio o’r ystafell wely.

Cafodd y pump eu cludo i Ysbyty Brenhinol Bolton yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Manceinion eu bod nhw’n credu bod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol ac y gallai fod wedi lladd pawb yn y tŷ oni bai eu bod nhw wedi cael eu deffro gan y larwm mwg.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.