Ed Miliband
Mae Ed Miliband wedi diystyru benthyg rhagor o arian i dalu am faniffesto etholiadol ei blaid wrth iddo amlinellu ei gynlluniau i leihau dyledion y wlad.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur y byddai’n lleihau’r ddyled bob blwyddyn a chyd-bwyso’r gyllideb os yw’n dod i rym yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai’r flwyddyn nesaf.

Mewn araith yn amlinellu blaenoriaethau economaidd ei blaid dywedodd y byddai Llafur yn cymryd agwedd “gadarn a chytbwys” wrth fynd i’r afael a’r dyledion ond hefyd yn diogelu dyfodol y Gwasanaeth Iechyd.

Fe rybuddiodd y byddai cynlluniau’r Ceidwadwyr i wneud toriadau i wariant cyhoeddus “llawer yn is” na’r lefelau a welwyd yn ystod llywodraeth Margaret Thatcher ac y byddai hynny’n arwain at broblemau difrifol yn gymdeithasol ac yn economaidd.

Mae Ed Miliband wedi bod yn ceisio ymateb i gyhuddiadau’r Ceidwadwyr y byddai’n anwybyddu’r dyledion ac yn achosi rhagor o broblemau economaidd.