Fe fydd cannoedd o swyddi yn diflannu yn ffatrïoedd Rolls-Royce yn y DU o dan gynlluniau’r cwmni peirianyddol i wneud toriadau’n fyd eang.

Y ffatri yn Derby fydd yn cael ei heffeithio fwyaf gyda thua 300 o weithwyr yno yn colli eu swyddi.

Bydd y swyddi’n cael eu colli ym musnes awyrofod y cwmni yn dilyn cyhoeddiad fis diwethaf bod 2,600 o swyddi i ddiflannu yn fyd eang dros y 18 mis nesaf.

Dywed Rolls-Royce y gallai’r ail-strwythuro o’r busnes tyrbinau arwain at gau eu safle yn Derby ac un yn Ansty yn Swydd Warwick.

Mae disgwyl i swyddi ddiflannu yn ffatrïoedd Inchinnan ger Glasgow, Barnoldswick yn Swydd Gaerhirfyn a Hucknall yn Swydd Nottingham.

Dywedodd swyddog rhanbarthol undeb Unite, Tony Tinley, bod Rolls-Royce “mewn perygl o wneud penderfyniadau yn y tymor byr a fydd yn edifar yn ddiweddarach” a bod y toriadau yn golygu colli sgiliau yn y DU.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Rolls-Royce y bydd y mesurau yn gwneud y cwmni’n gryfach yn y tymor hir a’u bod yn wynebu marchnad gystadleuol iawn.

Ychwanegodd eu bod yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf o’r diswyddiadau yn rhai gwirfoddol lle bod hynny’n bosib.