Ray Teret
Mae’r DJ a ffrind i Jimmy Savile, Ray Teret wedi cael ei garcharu am 25 o flynyddoedd am gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn 11 o ferched.
Clywodd Llys y Goron Manceinion fod Teret, 73, wedi defnyddio’i statws fel cyflwynydd ar orsaf Radio Caroline i ymosod ar ferched rhwng 13 a 15 oed.
Clywodd y llys fod Teret yn dilyn Savile o gwmpas clybiau Manceinion “fel cysgod”.
Cafwyd Teret yn euog yr wythnos diwethaf o saith achos o dreisio ac 11 achos o ymosod yn anweddus rhwng 1963 a 1979.
Ond cafwyd e’n ddieuog o droseddau eraill yn erbyn chwech o ferched.
Bellach, mae Heddlu Manceinion wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i honiadau newydd gan bedair o fenywod eraill.
Dywedodd y barnwr yn yr achos fod Teret o’r farn na fyddai rheithgor yn credu’r honiadau yn ei erbyn.
Siglodd Teret ei ben wrth i’r barnwr ei garcharu.
Yn dilyn yr achos, dywedodd yr heddlu fod Teret yn “ysglyfaeth rhywiol peryglus” a’i fod wedi “taflu cysgod tywyll” dros fywydau’r merched.