Fe fydd dwy ferch 13 a 14 oed yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dynes 39 oed.
Cafwyd hyd i gorff Angela Wrightson yn ei chartref yn Stryd Stephen, Hartlepool fore dydd Mawrth.
Mae archwiliad post mortem yn dangos ei bod wedi marw ar ôl colli llawer o waed a’i bod wedi cael anafiadau difrifol.
Dywed Heddlu Cleveland bod y ddwy ferch wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron ynadon Hartlepool heddiw.