Protestwyr ar strydoedd Hong Kong
Mae swyddogion heddlu wedi cychwyn clirio safleoedd protestwyr yn Hong Kong, lle mae cannoedd o bobol sy’n galw am hawliau democrataidd wedi bod yn gwersylla ers deufis a hanner.
Roedd yr awdurdodau wedi cynghori’r protestwyr i adael y strydoedd cyn i’r heddlu gyrraedd, gan ddweud y bydden nhw’n cael eu harestio, ond roedd rhai yn dal yno mewn protest heddychlon.
Ers mis Medi, mae’r protestwyr wedi bod yn pwyso ar lywodraeth Hong Kong i adael iddyn nhw ddewis eu hymgeiswyr eu hunain i sefyll yn yr etholiad cyntaf erioed i ddewis arweinydd Hong Kong yn 2017.
Mae degau o filoedd o drigolion wedi dangos eu gwrthwynebiad yn y misoedd diwethaf.
Ond fe wrthododd Beijing y cynnig hwnnw sy’n golygu y bydd yr ymgeiswyr yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr elitaidd.
Mae un o arweinwyr y gwrthwynebwyr, y myfyriwr Alex Chow, wedi dweud wrth yr heddlu y bydden nhw’n parhau i ymgyrchu.