Mae elusen Alcohol Concern wedi galw am reoleiddio’r broses o farchnata alcohol yn statudol ac yn annibynnol.
Daw eu hymateb wedi i adroddiad feirniadu’r cwmnïau alcohol mawr am beidio hybu diota cymedrol.
Mae adroddiad ‘Creu cwsmeriaid’ yn rhoi sylw i ddulliau’r prif gynhyrchwyr o werthu alcohol, a sut y mae’r diwydiant yn tanseilio’i addewidion ei hun i gefnogi defnyddio alcohol yn ddiogel.
Mae’r adroddiad yn beirniadu cwmni Diageo, sy’n berchen ar Guinness a Smirnoff, am safonau dwbl wrth ddweud fod yfed alcohol yn anghyfrifol tra’n annog tafarnwyr i ofyn i gwsmeriaid a hoffen nhw ddiod ddwbl yn lle sengl.
Dywed yr adroddiad bod cwmni Carlsberg yn ymrwymo i sicrhau eu bod nhw’n rhoi’r holl wybodaeth am eu cynnyrch i gwsmeriaid, ond wedyn yn cuddio cwrw i ffwrdd o’r silffoedd arferol “er mwyn hybu prynu ar fympwy”.
‘Gwrthdaro amlwg’
Mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell: “O weld yr amryw ffyrdd sydd gan y diwydiant alcohol o werthu eu diodydd, y cwestiwn mawr yw ai’r bobl sy’n gwneud yr elw fwyaf po fwyaf o alcohol byddwn ni’n ei yfed yw’r bobl orau i roi cyngor i ni ar sut i ddiota’n ddiogel ac iachus.
“O ystyried y gwrthdaro amlwg rhwng angen y diwydiant alcohol i werthu mwy o alcohol a’r angen i hybu yfed cymedrol, ddylai fod gan gynhyrchwyr alcohol ddim rhan mewn llunio gwybodaeth na pholisïau ynglŷn ag yfed yn ddiogel.”