April Jones
Fe fydd mam April Jones, y ferch bump oed a gafodd ei llofruddio ym Machynlleth, yn ymuno a phobl mewn gwasanaeth carolau yng Nghaerdydd i gofio am bobol o Gymru sydd ar goll.
Yr elusen Missing People sy’n trefnu’n gwasanaeth ac fe fydd yn cael ei gynnal yng Nghapel y Tabernacl, Yr Ais, am saith o’r gloch heno.
Fe fydd Coral Jones yno i gofio am ei merch a ddiflannodd ger ei chartre’ ar stad Bryn y Gog ym Machynlleth ar Hydref 1 2012.
“Er cynnal y chwilio mwya’ a welodd gwledydd Prydain erioed, fe ddaeth ein stori ni i ben mewn trasiedi,” meddai Coral Jones.
“Bydd y gwasanaeth yn gyfle i deuluoedd sy’n dioddef y poen calon o golli rhywun i ddod at ei gilydd gyda chefnogwyr yr elusen a thalu teyrnged i’w hanwyliaid.”
Cefnogaeth
Dywed trefnwyr y gwasanaeth y bydd y digwyddiad yn gyfle i roi help a chefnogaeth i bobol sydd ag anwyliaid ar goll drwy ddod â’r gymdeithas “at ei gilydd i gofio’r rhai sydd ar goll ar adeg anodd o’r flwyddyn.”
Meddai Jo Youle, Prif Weithredwr Missing People: “Mae’r sefyllfa o gael rhywun ar goll, heb wybod a ydyn nhw’n ddiogel, yn fwy caled fyth pan fo teuluoedd yn dod at ei gilydd i ddathlu’r ŵyl.”
Mae’r gwasanaeth yn cael ei drefnu mewn partneriaeth â Rachel Elias, chwaer Richard Edwards – gitarydd y band Manic Street Preachers – o’r Coed Duon sydd wedi bod ar goll ers 1995, a Mansel Jones, cefnder Ross Evans o Aberdâr aeth ar goll yn 1965.
Amcangyfrif bod tua 13,390 o bobol yn mynd ar goll yng Nghymru bob blwyddyn.