Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb
Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb wedi dweud ei bod yn bosib i fusnesau ffynnu y tu allan i drefi a dinasoedd.

Daw ei sylwadau wrth iddo ymweld â busnesau yn Aberhonddu a Chrughywel heddiw.

Fe fydd yn gweld sut mae gwasanaethau clinigol Sharp yn gweithredu yng Nghrughywel, yn ogystal â Tŷ-Mawr Lime yn Aberhonddu.

Mae Sharp yn darparu gwasanaethau pecynnu ar gyfer y diwydiant fferyllol a biodechnolegol.

Mae Tŷ Mawr Lime yn darparu deunyddiau adeiladu ac maen nhw wedi cyfrannu at y gwaith o adeiladu’r Ardd Fotaneg Genedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.

Mewn datganiad, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb: “Ni ddylid cyfyngu twf economaidd yng Nghymru i’n trefi a’n dinasoedd, yn enwedig pan fo cynifer o fusnesau gwych yng nghanolbarth Cymru sy’n creu swyddi ac sy’n cefnogi eu cymunedau.

“Rwy’n benderfynol fod ein gwlad gyfan yn rhannu’r adferiad economaidd felly rwy’n cefnogi busnesau sydd am fuddsoddi yng nghanolbarth Cymru a chreu cyfleoedd i bobol sy’n byw yno.”