Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref gyhoeddi heddiw na fydd heddluoedd yn cael delio gyda chwynion yn erbyn eu swyddogion gan aelodau o’r cyhoedd.

Mae Theresay May eisiau rhoi’r cyfrifoldeb i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu, yn hytrach na heddluoedd, mewn ymdrech i hybu tryloywder.

Fe fydd y cynlluniau yn cael eu cyhoeddi fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ac mae’n dilyn adolygiad o system gwynion yr heddlu a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref ym mis Gorffennaf.