Mae nifer o gwmnïau cyfryngau wedi mynegi pryder ynghylch fersiwn ddrafft o god ymddygiad sy’n rhoi’r hawl i’r heddlu gael mynediad di-ben-draw i gofnodion ffôn newyddiadurwyr heb ganiatâd.
Yn ôl y ddogfen sy’n cael ei llunio gan y Swyddfa Gartref, ni fyddai amserau na derbynwyr galwadau ffôn yn aros yn gudd.
Mae cannoedd o newyddiadurwyr yn gwrthwynebu’r ddogfen mewn deiseb a gafodd ei llunio gan y Press Gazette, ac mae undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ yn galw am ddeddf newydd er mwyn diogelu hawliau newyddiadurwyr.
Ym mis Hydref, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May y dylid rhoi ystyriaeth arbennig i broffesiynau sy’n ddibynnol ar wybodaeth sensitif wrth lunio’r ddogfen.
Fis diwethaf, dywedodd y Canghellor George Osborne nad oedd yn briodol i’r awdurdodau ysbïo ar newyddiadurwyr.
Mae’r NUJ yn rhybuddio nad yw’r cod yn sicrhau diogelwch llwyr i newyddiadurwyr a’u ffynonellau.
Dywedodd llefarydd: “Yr hyn sydd ei angen yw deddfwriaeth a fyddai’n amddiffyn newyddiadurwyr.”