Dim ond tri o bob 20 o droseddau treisgar yn erbyn plant sy’n cael eu hadrodd i’r heddlu, yn ôl astudiaeth.

Mae ymchwil i droseddau yn erbyn plant a phobl ifanc yng Nghymru a Lloegr gan yr elusen Victim Support a Phrifysgol Sir Bedford wedi darganfod mai troseddau treisgar oedd y rhai mwyaf cyffredin sy’n effeithio plant – gan anafu saith ym mhob 10 dioddefwr.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan y Grŵp Hollbleidiol Seneddol i Ddioddefwyr a Thystion Troseddau.
Bu’r adroddiad hefyd yn edrych ar droseddau rhyw yn erbyn plant.

Cafodd 23,772 o droseddau rhyw yn erbyn plant o dan 16 oed eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn 2013/14.