Fe fydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn trafod ei Gynllun Datblygu Lleol heddiw a allai olygu bod 15,000 o dai yn cael eu hadeiladu yn y sir erbyn 2021.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi apelio ar gynghorwyr i beidio derbyn y cynllun, ond yn hytrach i adeiladu tai ar sail yr angen amdanyn nhw.

Mae’r cyngor yn dweud y bydd y cynllun yn arwain at dwf a swyddi ac maen nhw wedi clustnodi pedair ardal benodol gan gynnwys tref Caerfyrddin, Rhydaman, Cross Hands a Llanelli.

Dywedodd Ann Rhys o Fudiad Amddiffyn Porth-y-Rhyd – ardal fyddai’n gweld nifer sylweddol o dai yn cael eu hadeiladu fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol bod angen i’r cyngor ofyn ar gyfer pwy mae’r holl dai?

“Mae cyfrifoldeb mawr ar y cyngor wrth iddyn nhw lunio dyfodol Sir Gar – os ydyn nhw’n pleidleisio o blaid y Cynllun Datblygu Lleol byddan nhw wedi tynghedu’r sir i gynnydd anferthol yn y stoc dai, ymhell tu hwnt i’r galw lleol.

“Mae angen i’r cyngor ofyn ar gyfer pwy mae’r holl dai hyn.”

Ychwanegodd: “Mae’r cyngor wedi ymateb yn gadarnhaol i ganlyniadau’r Cyfrifiad, a ddangosodd gwymp o 6% yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws y sir. Mae gyda nhw strategaeth iaith newydd ond bydd 15,000 o dai yn tanseilio unrhyw effaith fydd hynny’n ei gael. Mae fel petai’r Gymraeg yn dal i fod yn ymylol i’r cyngor.”

‘Tir peryglus’

Mae pryder ymysg ymgyrchwyr hefyd nad oes digon o ystyriaeth i’r Gymraeg yn y Cynllun.

Dywedodd Cen Llwyd o Gymdeithas yr Iaith: “Er bod asesiad o effaith iaith y Cynllun yn ei gyfanrwydd, fydd dim asesiad o effaith datblygiadau unigol – sydd yn gosod y Cynllun, a’r cyngor, ar dir peryglus.

“Hefyd, rydyn ni’n disgwyl y bydd y Llywodraeth yn newid y Bil Cynllunio i roi lle canolog i’r Gymraeg pan fyddan nhw’n ei dderbyn fis Mai – byddai hynny’n effeithio ar holl gynlluniau Datblygu Lleol Cymru.

“Gan nad yw’r cyngor wedi derbyn y Cynllun eto, does dim rheswm pam na allai’r cyngor ohirio’r drafodaeth yma nes fis Mai. Gallan nhw ail-lunio’r Cynllun fel nad yw’n tanseilio cymunedau Sir Gaerfyrddin.”