Mae Senedd yr Unol Daleithiau wedi cyflwyno adroddiad damniol i arferion y CIA gan gyhuddo’r asiantaeth cudd-wybodaeth o achosi poen a dioddefaint i garcharorion y tu hwnt i derfynau cyfreithiol a thwyllo’r genedl bod ei dechnegau holi yn achub bywydau.

Daeth yr adroddiad gan Bwyllgor Cudd-wybodaeth y Senedd i’r casgliad fod y modd y cafodd carcharorion eu trin mewn carchardai cudd ddegawd yn ôl yn waeth na beth oedd y llywodraeth wedi dweud wrth wleidyddion a’r cyhoedd.

Dim ond 500 o dudalennau o’r adroddiad sydd wedi cael eu rhyddhau. Mae hynny’n cynnwys crynodeb a chasgliadau ymchwiliad ond mae gweddill yr adroddiad 6,700 tudalen yn dal i fod yn gyfrinachol.

Roedd tactegau’r CIA yn cynnwys wythnosau o amddifadedd cwsg, taro a gwthio carcharorion yn erbyn waliau, eu cadw’n ynysig am gyfnodau hir a’u bygwth â marwolaeth.

Dywed yr adroddiad bod llawer o’r carcharorion wedi dioddef problemau seicolegol yn sgil y profiadau a gawson nhw.

Ond nid oedd y technegau hyn yn dod a chanlyniadau, yn ôl yr adroddiad.

Mae cyn-swyddogion gyda’r CIA wedi anghytuno â chanfyddiadau’r adroddiad. Mae’r Gweriniaethwyr yn y Senedd hefyd wedi ei feirniadu gan gyhuddo’r Democratiaid o ddadansoddi blêr a dewis a dethol tystiolaeth er mwyn dod at gasgliad a bennwyd ymlaen llaw.

Mae swyddogion y CIA wedi paratoi eu hymateb eu hunain i’r adroddiad gan gydnabod camgymeriadau difrifol, ond yn mynnu eu bod nhw wedi cael gwybodaeth hanfodol trwy ddefnyddio’r technegau.