Mae gohebydd The Sun wedi’i gael yn euog o drin ffôn symudol a gafodd ei ddwyn oddi wrth AS Llafur Siobhain McDonagh er mwyn edrych ar negeseuon preifat rhwng y brodyr Ed a David Miliband yn ystod y frwydr am arweinyddiaeth y blaid.
Cafwyd Nick Parker, 53, yn euog o’r cyhuddiad ynghyd â’r myfyriwr Michael Ankers, a oedd wedi ceisio gwerthu cynnwys y ffôn BlackBerry i’r papur newydd.
Clywodd y llys fod Nick Parker mor awyddus i gael sgŵp nes ei fod wedi cytuno i roi tal o £10,000 i weld y negeseuon.
Ond penderfynodd beidio mynd ar ôl y stori ar ôl methu dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod trosedd wedi’i chyflawni mewn perthynas â neges destun am lwgrwobrwyo, clywodd y llys.
Yn ogystal, cafwyd Nick Parker yn ddieuog o drosedd fwy difrifol o helpu ac annog Swyddog Heddlu Surrey, Alan Tierney, i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Roedd Alan Tierney, oedd wedi cyfaddef i’r drosedd, wedi cysylltu â’r newyddiadurwr gyda gwybodaeth am fam a mam yng nghyfraith y pêl-droediwr John Terry oedd wedi cael rhybudd am ddwyn o siopau.
Roedd hefyd wedi rhoi gwybod i’r newyddiadurwr am ymosodiad honedig Ronnie Wood o’r Rolling Stones yn erbyn ei gariad.