Y Llys Apêl
Mae’r Llys Apêl wedi dyfarnu nad oes rhaid i gwmnïau bysys gael polisi sy’n gorfodi rhieni gyda bygis i symud er mwyn gwneud lle i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn.
Fe ddyfarnodd tri barnwr yn y llys y dylai defnyddwyr cadeiriau olwyn fynd at y Senedd er mwyn cyflwyno gwelliannau mewn achosion o’r fath.
Daeth y dyfarniad ar ôl i ddynes wrthod symud cadair wthio lle’r oedd ei babi yn cysgu o safle ar fws oedd wedi’i neilltuo ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.