Mae wyth o geir wedi cael eu difrodi mewn tân mewn garej yng Nghaeathro ger Caernarfon y bore ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Garej Gwalia toc wedi 4:00 y bore ma, ac roedd dwy injan dân o Gaernarfon ar y safle.

Mae Gwasanaeth Tân Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad i geisio canfod achos y tân ac mae amheuaeth ei fod wedi ei gynnau’n fwriadol.

Ni chafodd unrhyw yn eu hanafu.