Y llys yn Cape Town
Fe fydd barnwr yn Ne Affrica yn penderfynu heddiw os fydd yr achos yn erbyn y dyn busnes o Brydain, Shrien Dewani, sy’n cael ei gyhuddo o gynllwynio i lofruddio ei wraig, yn parhau.
Mae hi’n bedair blynedd ers i Anni Dewani, 28, gael ei saethu yn farw yn Cape Town ar ei mis mêl.
Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo o chwarae rôl yn ei marwolaeth, wedi i’r tacsi yr oedd Shrien ac Anni Dewani yn teithio ynddo ym mis Tachwedd 2010, gael ei herwgipio.
Mae Shrien Dewani, sy’n dod o Fryste, yn gwadu bod yn rhan o’r cynllun i lofruddio ei wraig ac mae ei gyfreithwyr yn dadlau fod y tyst allweddol ar ran yr erlyniad yn annibynadwy.
Ond mae un o’r dynion sydd wedi ei garcharu am 18 mlynedd, y gyrrwr tacsi Zola Tongo, yn honni ei fod wedi cael cyfarwyddiadau gan Shrien Dewani i lofruddio ei wraig.
Os yw’r barnwr Jeanette Traverso yn penderfynu nad oes achos digon cryf yn ei erbyn, bydd yn cael dychwelyd i Brydain heb unrhyw gyhuddiad.
Mae teulu Anni Dewani wedi erfyn ar ei gweddw i “ddweud wrth y byd beth ddigwyddodd”.