Mae Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i gyfleoedd gwaith i bobol dros hanner cant oed.

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y rhwystrau y mae pobol hŷn yn eu hwynebu wrth geisio chwilio am swyddi; i ba raddau y mae gwahaniaethu ar sail oedran yn digwydd, ac effaith hynny ar recriwtio pobol hŷn.

Yn ogystal, mi fydden nhw’n ystyried effeithiolrwydd Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobol Hŷn yng Nghymru 2013-23, o ran eu helpu i ddod o hyd i swyddi.

“Yn ogystal ag asesu effaith a gwerth am arian cyllid Ewropeaidd, byddwn hefyd yn edrych ar y rhwystrau posibl i bobol hŷn o ran cael mynediad at gyflogaeth oherwydd cyfrifoldebau gofalu – ac er mwyn gwneud hynny mae angen i ni glywed barn pobol Cymru,”, meddai William Graham, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes.

Pwyntiau dan ystyriaeth

• Anawsterau o ran trafnidiaeth, gan gynnwys argaeledd a chost
• Diffyg hyder (er enghraifft, ar ôl colli swydd)
• Helpu a chynorthwyo pobol sydd â heriau ychwanegol (er enghraifft, y rhai sydd ag anabledd)
• Rôl pobol hŷn wrth fentora gweithwyr iau a throsglwyddo eu sgiliau a’u gwybodaeth
• Sut y gall pobol hŷn sy’n ailymuno â’r farchnad lafur effeithio ar nifer y swyddi a chyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gael i weithwyr iau
• Helpu’r rhai mewn ardaloedd lle y mae lefel uchel o ddiweithdra