Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno isafswm pris alcohol o 50c am bob uned, yn sgil adroddiad sydd wedi dangos y byddai’n arwain at lai o farwolaethau a llai o droseddu.

Daeth yr adroddiad hefyd i’r casgliad y byddai isafswm pris alcohol yn arbed £882 miliwn i economi Cymru dros ugain mlynedd.

Os byddai’n rhaid i siopau weithredu’r isafswm pris, byddai’n golygu bod can o gwrw yn costio o leiaf £1, botel o win yn costio o leiaf £5 a photel o wirod o leiaf £15.

Arbenigwyr o Brifysgol Sheffield fu’n ymchwilio i effaith yr isafswm pris ar alcohol, ac fe gafodd y cynnig hefyd ei gyflwyno ym Mhapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd.

Un o’r prif ganfyddiadau oedd y byddai isafswm pris yn cael mwy o effaith ar bobol o ardaloedd difreintiedig.

Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r canfyddiadau ac wedi dweud ei fod yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth.

Tystiolaeth

Byddai’r cyflwyno deddfwriaeth newydd yn golygu bod 53 person yn llai yn marw bob blwyddyn, yn ôl yr arbenigwyr.

“Mae’r ymchwil ddiweddaraf yn dystiolaeth bellach fod cyflwyno isafswm pris o 50c fesul uned yn mynd i olygu manteision sylweddol i iechyd y genedl, gan leihau’r camddefnydd o alcohol a’r niwed sy’n gysylltiedig ag yfed,” meddai Mark Drakeford.

“Byddai’n golygu llai o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol ac yn lleddfu baich niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol ar GIG Cymru.

“Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod marwolaethau a chlefydau sy’n gysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu wrth i gost alcohol fynd i lawr.

“Byddwn yn ystyried y canfyddiadau hyn ac yn dal i ddatblygu ein cynigion gyda golwg ar gyflwyno deddfwriaeth.”

Prif ganfyddiadau

• Ar draws y boblogaeth gyfan, amcangyfrifir y byddai’r defnydd cymedrig o alcohol fesul wythnos yn gostwng 4%;

• Ar draws y boblogaeth gyfan, amcangyfrifir fod gwariant yn cynyddu 1.6% neu £10 fesul pob yfwr bob blwyddyn, neu 19c yr wythnos;

• Amcangyfrifir y byddai’r effaith ar iechyd yn sylweddol, gyda marwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol yn gostwng tua 53 y flwyddyn ar ôl ugain mlynedd, ac erbyn hynny bydd effaith lawn y polisi wedi’i gweld;

• Amcangyfrifir y bydd 3,700 yn llai o droseddau ar y cyfan bob blwyddyn. Mae gostyngiad tebyg i’w weld ar draws y tri chategori o droseddau – troseddau treisgar, difrod troseddol a lladrad, bwrglera a dwyn;

• Amcangyfrifir y bydd absenoldeb o’r gweithle’n lleihau 10,000 diwrnod y flwyddyn;