David Cameron a Nick Clegg
Mae David Cameron wedi beirniadu’r Democratiaid Rhyddfrydol gan eu cyhuddo o fod “dros y lle i gyd” wrth i’r rhwyg o fewn y Glymblaid ynglŷn â sut i sefydlogi’r economi waethygu.

Mae’r Prif Weinidog wedi wfftio dylanwad Nick Clegg ar Ddatganiad yr Hydref wythnos ddiwethaf gan ddweud fod y mesurau a gafodd eu cyflwyno yn rai Ceidwadol.

Daw sylwadau David Cameron ar ôl i’r Canghellor George Osborne honni y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn achosi “anhrefn economaidd” petai nhw’n dilyn eu hagenda eu hunain.

Ond mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi dadlau bod y Ceidwadwyr yn ceisio twyllo pleidleiswyr ynglŷn â’r toriadau y byddai’n cyflwyno petai’r blaid yn dod i rym yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.