Llygredd awyr yn Llundain
Mae’n rhaid cyflwyno gwaharddiad ar adeiladu ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal mewn llefydd lle mae lefelau uchel o lygredd awyr er mwyn diogelu iechyd pobl, yn ôl pwyllgor Seneddol.
Fe fyddai’n helpu i atal degau ar filoedd o farwolaethau yr amcangyfrifir sy’n cael eu hachosi gan lygredd awyr, yn ôl y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol.
Fe ddylai mwy na 1,000 o ysgolion hefyd gyflwyno system sy’n puro’r aer er mwyn diogelu plant rhag llygredd o gerbydau, meddai’r pwyllgor.
Mae’n rhybuddio bod plant yn wynebu niwed i’w hysgyfaint o ganlyniad i nitrogen deuocsid (NO2) sy’n dod o beiriannau ceir ac mae’n awgrymu y gall llygredd yn yr awyr achosi marwolaethau babis.
Mae’r pwyllgor wedi beirniadu’r Llywodraeth am fethu a gweithredu ar argymhellion blaenorol ac yn galw am reolau cynllunio llymach.
Dywedodd Joan Walley, sy’n cadeirio’r pwyllgor: “Mae’n annerbyniol bod cenhedlaeth arall o bobl ifanc sy’n cael eu magu yn ein trefi a’n dinasoedd yn wynebu’r risg o niweidio eu hiechyd yn sylweddol oherwydd llygredd awyr anghyfreithlon, cyn i’r Llywodraeth ddod a’r argyfwng iechyd cyhoeddus yma dan reolaeth.”