Rhys Meirion
Mae canwr sy’n ymgyrchu i annog pobol i roi eu horganau ar ôl marw wedi rhybuddio na fydd deddf newydd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn newid pethau.

Dyna pam y bydd peth o’r arian o ymgyrchoedd Rhys Meirion y flwyddyn nesa’ yn mynd at gronfa sy’n annog pobol i roi.

Y peth pwysig, meddai wrth Golwg360, yw bod pobol yn siarad ymlaen llaw gyda’u teuluoedd i wneud yn siŵr nad oes rhaid iddyn nhw wynebu penderfyniadau anodd ynghanol galar.

Dim newid

Fydd deddf newydd y Cynulliad ddim yn newid y sefyllfa, meddai, er bod honno’n cymryd yn ganiataol fod pobol am roi eu horganau os na fyddan nhw’n dweud yn wahanol.

Hyd yn oed ar ôl i’r ddeddf ddod i rym ddiwedd y flwyddyn nesa’, fe fydd doctoriaid yn dal i droi at berthnasau i gael caniatâd, meddai Rhys Meirion, sydd wedi sefydlu Cronfa Elen i gofio am ei chwaer a fu farw’n sydyn ar ôl damwain.

“Nid y person sy’n marw sydd â’r dweud,” meddai. “Hyd yn oed rŵan, os ydi person yn cario cerdyn donor, mi fydd y doctor yn dal i ofyn i’r teulu.”

Yn achos ei chwaer, roedd hi wedi cael sgwrs gyda’i merch ac, o ganlyniad, roedd y teulu’n gallu rhoi caniatâd ar unwaith.

“Y peryg fel arall ydi y bydd pobol yn dweud ‘na’ yn syth,” meddai Rhys Meirion. “Pan ofynnon nhw i fi am Elen, oedd fy mhen i dros bob man.”

Codi ymwybyddiaeth

Dyna pam mai taith i godi ymwybyddiaeth o’r angen fydd taith Rhys Meirion yr haf nesa’, ac yntau a’i griw o gefnogwyr yn defnyddio pob math o ddulliau trafnidiaeth posib i fynd o amgylch rhai o brif ysbytai Cymru.

“Mi fydd Cylchdaith Cymru’n codi ymwybyddiaeth o’r angen i bobol siarad efo’u hanwyliaid,” meddai.

“Mae’n allweddol codi’r nifer sy’n rhoi organau.”

Fe fydd taith arall – taith gerdded ym Mhatagonia ym mis Tachwedd – yn codi o leia’ £300,000, gyda hanner yr arian yn mynd at Gronfa Elen.

Cymru yw’r gynta’ o wledydd Prydain i gael deddf sy’n cymryd yn ganiataol fod pobol am roi organau.