Meri Huws
Fe fydd Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu Comisiynydd Iaith Kosovo, gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop sydd wedi ennill annibyniaeth o Serbia, i Gaernarfon i ddysgu am ei gwaith yn hybu a sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg.
Mae Meri Huws yn gobeithio y bydd Slaviša Mladenović yn mynd â rhai o’i syniadau hi ar sut i hybu’r Gymraeg yn ôl i Kosovo gydag ef.
Fe fydd Comisiynydd Iaith Kosovo yn ymweld â swyddfa S4C, Heddlu Gogledd Cymru, Clwb Rygbi Caernarfon a’r cwmni teledu lleol o Gaernarfon, Cwmni Da yn ystod ei ymweliad sy’n cychwyn ddydd Llun.
“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu Comisiynydd Iaith Kosovo a’i dîm i ogledd Cymru,” meddai Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.
“Gobeithiaf y bydd yn mwynhau dysgu am ein hiaith a’n diwylliant ac y bydd yn mynd â rhai syniadau yn ôl i Kosovo gydag ef.”
Roedd Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Iaith Kosovo yn rhai o gyd-sylfaenwyr Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith, sef fforwm i drafod a rhannu syniadau a phrofiadau ynglŷn â sut i sicrhau hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol a chynhenid.