Mae dyn yn Lerpwl wedi cael ei gyhuddo o ddwsin o droseddau’n ymwneud â thwyllo hen bobol yng Ngogledd Iwerddon.

Fe gafodd y dyn, 28 oed, ei arestio ar Lannau Merswy ddydd Gwener, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Laganside yn ninas Belffast fory.

“Mae’r dyn wedi’i arestio a’i gyhuddo o’r troseddau yn ymwneud â dwyn arian trwy dwyll a thrwy dynnu sylw hen bobol, rhwng Mai 2 a Mehefin 23 eleni,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon.

“Fe gafodd nifer o hen bobol eu targedu.”