Carchar Bae Guantanamo
Mae chwech o garcharorion Bae Guantanamo wedi’u trosglwyddo i ofal Wrwgwai, meddai llywodraeth yr Unol Daleithiau.
Roedd oedi o rai misoedd wedi bod yn y trosglwyddiad, a hynny oherwydd ofnau’r Pentagon ynglyn ag amodau gwleidyddol y wlad yn Ne America.
Y chwe charcharor yma yw’r rhai cynta’ i gael eu trosglwyddo i Dde America o’r carchar ar ynys Ciwba.
Fe gytunodd arlywydd Wrwgwai, Jose Mujica, i dderbyn y dynion – pedwar o Syria, un o Diwnisia a’r llall o Balesteina – fel gweithred ddyngarol. Mae wedi addo y byddan nhw’n cael y cyfle i’w hail-sefydlu eu hunain mewn gwlad sydd â phoblogaeth fechan o Fwslimiaid yn byw ynddi.
Roedd y chwech wedi cael eu harestio a’u carcharu yn 2002 ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig ag al Qaida, ond chafodd yr un ohonyn nhw ei gyhuddo.