Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dau o bobol ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn dilyn marwolaeth dyn 46 oed yn sir Pen-y-bont ar Ogwr heddiw.
Bu farw’r dyn yn Monks Close, Y Pîl, am 6 o’r gloch y bore, ac mae dyn 52 oed ynghyd a dynes 41 oed – y ddau o Borthcawl – wedi cael eu dwyn i’r ddalfa.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r farwolaeth.
Maen nhw hefyd yn gofyn ar i bobol gysylltu â nhw os oes ganddyn nhw wybodaeth a allai fod o help i ddatrys yr achos.