Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i fachgen yn ei arddegau gael ei drywanu i farwolaeth ar y stryd yn nwyrain Llundain.

Roedd y bachgen 15 oed yn cerdded gyda’i ffrindiau yn Tower Hamlets, pan ddigwyddodd yr ymosodiad toc wedi 11yh neithiwr.

Fe ddioddefodd anafiadau difrifol i’w stumog, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty. Ond bu farw yno am 2.12yb heddiw.

Mae dyn 18 oed wedi’i arestio, ac mae’n parhau yn y ddalfa yn cael ei holi gan yr heddlu.