Nathan Gill - arweinydd newydd Ukip yng Nghymru
Mae dau gynghorydd – y naill o’r blaid Geidwadol a’r llall o Blaid Cymru – wedi cael eu cyflwyno fel aelodau newydd o blaid Ukip yn ystod cynhadledd Gymreig y blaid ym Mhort Talbot heddiw.
Fe gafodd Cynghorydd Ceidwadol Casnewydd, William Routley, ei groesawu’n frwd gan y cynadleddwyr yn Orendy Margam, ynghyd a’r cyn-Bleidiwr a fu’n Gynghorydd ardal Glanyrafon, Caerdydd, Mohammed Sarul Islam.
Yn ei araith, mae arweinydd Ukip, Nigel Farage, wedi dweud y bydd ei blaid yn targedu “saith neu wyth” o seddau Cymreig yn Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesa’.
Ac fe gafodd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Gymru, Nathan Gill, ei benodi gan Nigel Farage yn arweinydd Ukip yng Nghymru.