Mae dau o blismyn Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty, wedi i’w car daro wal a pholyn lamp mewn pentre’ yng Ngwynedd.
Fe ddigwyddodd ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle, am 5.30yb heddiw, ac roedd dipyn o lanast ar y car.
Roedd wedi mynd ar ben y pafin ger Clwb y Cyn-Filwyr, a tharo golau stryd ar Ffordd y Sir, ar ben y ffordd sy’n troi i lawr am Dy’n y Weirglodd a Maes Dulyn.
Yn ol Heddlu Gogledd Cymru, mae ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth gan unrhyw dystion allai fod wedi gweld neu glywed unrhyw beth.