Mae lladron yn gwisgo masgiau wedi dwyn peiriant arian o archfarchnad yng ngogledd Lloegr… a hynny trwy greu ‘twll yn y wal’ go iawn.
Fe glywodd staff archfarchnad Asda yn Astley Bridge, Bolton, ffrwydriad cyn iddyn nhw weld pedwar o ddynion yn dianc o’r fan mewn car Audi.
Pan aeth y gweithwyr i weld be’ oedd wedi digwydd, roedd y peiriant twll yn y wal wedi diflannu. Mae’r heddlu’n dweud fod y lladron wedi defnyddio canister o nwy i chwythu’r peiriant pres o’r wal.
Mae lluniau camera cylch-cyfyng yn dangos pedwar o ddynion, yn gwisgo balaclafas, yn gyrru ymaith mewn car Audi lliw glas gyda’r rhif AV62 BBZ.