Mae’r Blaid Gomiwnyddol yn China wedi gwahardd cyn-bennaeth diogelwch y wlad, Zhou Yongkang.

Mae erlynwyr wedi dechrau ymchwilio i’w droseddau honedig, ac mae’r rheiny’n cynnwys derbyn taliadau anghyfreithlon a rhannu cyfrinachau’r wlad.

Mae adroddiad yn dweud fod Zhou “wedi cam-ddefnyddio ei bwer er mwyn helpu aelodau o’i deulu, ei gariadon a’i ffrindiau wneud elw mawr wrth redeg busnesau”.

Fe gafodd y penderfyniad i’w wahardd ei wneud ddoe (dydd Gwener) mewn cyfarfod o’r Biwro Gwleidydol.

“Mae Zhou wedi rhannu cyfrinachau’r blaid a’r wlad,” meddai’r adroddiad wedyn. “Mae wedi bod yn anffyddlon i’w wraig gyda nifer o wragedd, ac mae wedi cyfnewid ei bwer am ryw ac arian.”