Mae naw o ffatrioedd canabis wedi’u cau yng Nghaerdydd yn ystod cyrchoedd gan Heddlu De Cymru yn y brifddinas dros y tridiau diwetha’.

Mae pedwar o ddynion wedi’u harestio a’u cyhuddo o fod yn gysylltiedig a chynhyrchu canabis. Maen nhw’n parhau yn y ddalfa, tra bod yr ymchwiliad i gyffuriau anghyfreithlon yn parhau.

“Dydyn ni ddim yn fodlon caniatau cynhyrchu na gwerthu cyffuriau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru, “ac fe fydd unrhyw un a gaiff ei ddal yn defnyddio neu’n gwerthu cyffuriau anghyfreithlon yn cael eu cosbi.

“Gobeithio y bydd y gweithgarwch diweddar yn annog mwy o bobol i gysylltu gyda’r heddlu os ydyn nhw’n amau rhywun o gamddefnyddio cyffuriau yn eu hardal nhw.”