Fe allai’r Alban gael cyfraith sy’n gwarantu datganoli ac yn cael gwared ar rym San Steffan i ddiddymu’r Senedd yno.
Dyna’r dehongliad wrth i Ysgrifennydd yr Alban ddweud ei fod yn ystyried y syniad o Ddeddf Hunanlywodraeth, debyg i’r rhai a gafwyd yn hen wledydd yr Ymerodraeth Brydeinig.
Yn ôl Alistair Carmichael, roedd y syniad wedi ei awgrymu iddo ac roedd yntau’n credu ei fod werth ei ystyried.
Roedd yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor yn Senedd yr Alban wrth i’r drafodaeth barhau am ddyfodol datganoli yno.
Ildio sofraniaeth
Dehongliad papur y Scotsman, er enghraifft, yw y byddai deddf o’r fath yn golygu bod San Steffan yn ildio sofraniaeth mewn meysydd sydd wedi eu datganoli.
Fe fyddai hefyd yn golygu bod grymoedd Senedd yr Alban wedi eu diogelu’n gyfreithiol – ar hyn o bryd, fel yng Nghymru, mae gan San Steffan y grym ar hyn o bryd i ddadwneud datganoli.
Fe fyddai deddf o’r fath yn sicr o arwain at alwadau am drefn debyg yng Nghymru – mae Plaid Cymru eisoes wedi galw am gyfartaledd gyda’r Alban.