Fe allai yfed dim ond un peint neu wydraid mawr o win olygu cosb am yfed a gyrru yn yr Alban o hyn ymlaen.

Mae newid i’r ddeddf yno’n dod i rym heddiw, gyda gyrwyr yn yr Alban nawr yn cael eu cosbi os oes ganddyn nhw fwy na 50mg o alcohol mewn 100ml o waed.

Fe allai’r newid gynyddu’r galwadau am reolau llymach yng Nghymru hefyd – ar hyn o bryd, mae’r lefel troseddol yng ngweddill gwledydd Prydain yn aros yn 80mg, ymhlith yr uchaf yn Ewrop.

Pleidlais unfrydol

Cafodd y rheolau yfed a gyrru newydd eu cymeradwyo yn unfrydol gan Senedd yr Alban yn Holyrood y mis diwetha’.

Mae’n golygu y gallai gyrwyr gael eu cosbi os ydyn nhw wedi yfed peint neu wydraid o win yn Lloegr, cyn gyrru dros y ffin i’r Alban ac mae rhai’n dweud y gallai achosi dryswch.

Ond fe fydd y rheolau newydd yn achub bywydau, meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu’r Alban, gan bwysleisio mai’r peth gorau i’w wneud oedd peidio ag yfed o gwbl os oedd rhywun yn bwriadu gyrru.

Gormod yn marw

“Mae gormod o bobl yn marw bob blwyddyn ar ffyrdd yr Alban oherwydd yfed a gyrru,” meddai Bernard Higgins.

“Mae tystiolaeth o weddill Ewrop, ble mae’r lefel is yma yn bod eisoes, yn awgrymu y gwelwn ni leihad yn y lefelau yfed a gyrru ac felly y bydd bywydau’n cael eu hachub.”

Yn ôl ymchwil gan y RAC mae 79% o bobol yn yr Alban yn cefnogi’r newid, gyda 38% o bobol o weddill Prydain yn dweud yr hoffen nhw weld y lefel is yn cael ei gyflwyno yno hefyd.

Ymgyrchwyr eisiau cysondeb

Mae’r elusen diogelwch ffyrdd Brake yn credu y dylai’r lefel gyfreithiol gael ei gostwng i 20mg.

Ond fe groesawodd dirprwy brif weithredwr yr elusen, Julie Townsend, y ddeddf newydd yn yr Alban a dweud y dylai San Steffan ddilyn yr esiampl yno.

“Mae’n ffaith bod hyd yn oed y mymryn lleiaf o alcohol neu gyffuriau yn medru cynyddu eich risg o gael damwain,” meddai Julie Townsend.

“R’yn  ni’n croesawu’r lefel is newydd yn yr Alban fel cam positif tuag at beidio â chaniatáu unrhyw yfed a gyrru o gwbl.”