Mae diwygiadau i’r dreth stamp wedi dod i rym heddiw yn dilyn Datganiad yr Hydref gan Ganghellor Llywodraeth Prydain, George Osborne ddoe.
Wrth wneud ei Ddatganiad ddoe, dywedodd Osborne ei fod yn awyddus i “orffen y gwaith” o adfer yr economi.
Ond mae ei Ddatganiad wedi cael ei feirniadu gan y Democrat Rhyddfrydol, Vince Cable, sy’n dweud nad yw gwneud y lefel o doriadau sydd eu hangen yn bosib.
Bydd angen i Osborne gwtogi gwariant fel rhan o GDP i’w lefel isaf ers 80 o flynyddoedd er mwyn lleihau faint o arian mae’r Llywodraeth yn ei fenthyg.
Y dreth stamp
Mae’r dreth stamp yn cael ei ystyried yn un o’r cyhoeddiadau mwyaf pellgyrhaeddiol a gafodd eu gwneud ddoe.
Cyfaddefodd Osborne nad yw’r diffyg ariannol yn disgyn mor gyflym ag yr oedd wedi gobeithio, ac mae disgwyl iddo aros ar lefel o tua £90 biliwn eleni.
Ond mae’n mynnu hefyd fod y diffyg wedi cael ei haneru ers 2010, a bod disgwyl iddo ostwng yn raddol bob blwyddyn hyd at 2018.
Mae’r dreth stamp yn disodli’r hen drefn lle mae prynwyr tai yn gorfod talu canran o’r pris llawn wrth i werth tai gyrraedd pris arbennig.
Ni fydd rhaid talu treth ar dai sy’n werth hyd at £125,000.
Bydd y dreth yn 2% am dai gwerth hyd at £250,000, 5% am dai gwerth hyd at £925,000, 10% am dai gwerth hyd at £1.5 miliwn a 12% am dai gwerth mwy na hynny.
Mae disgwyl i’r cynllun arbed hyd at £800 miliwn y flwyddyn mewn trethi.
‘Nonsens llwyr’
Dywedodd y Gweinidog Busnes Vince Cable ei fod wedi gwrthwynebu toriadau’n chwyrn.
Mae’n cyfaddef fod gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ddulliau cwbl wahanol i’w gilydd ynghylch sut i leihau’r diffyg ariannol.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg wedi wfftio Datganiad y Canghellor gan ddweud ei fod yn “nonsens llwyr”.