Charlotte Bevan
Mae’r heddlu’n sy’n ymchwilio i ddiflaniad mam a’i babi newydd o’r ysbyty wedi dod o hyd i gorff dynes mewn ceunant yn Avon.

Fe ddiflannodd Charlotte Bevan, 30, o Ysbyty Mamolaeth Bryste ddydd Mawrth gyda’i merch pedwar diwrnod oed Zaani Tiana.

Mae ei theulu wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf, meddai Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.

Mae lluniau CCTV yn dangos Charlotte Bevan yn gadael yr ysbyty ac yn cario Zaani mewn blanced.