Charlotte Bevan
Mae’r heddlu’n chwilio am fam a babi newydd-anedig wedi iddyn nhw ddiflannu o ysbyty mamolaeth ym Mryste neithiwr.

Gadawodd Charlotte Bevan, 30, yr ysbyty gyda’i merch fach pedwar diwrnod oed, Zarnee Teanna rhwng 8.30yh a 9yh.

Doedd gan y fam ddim côt nac esgidiau, ac roedd y babi wedi’i lapio mewn blancedi.

Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi apelio am wybodaeth, gan ddweud eu bod yn gofidio am les y ddwy.

Bu’r heddlu’n chwilio yng nghanol dinas Bryste dros nos, ac mae’r heddlu wedi apelio ar yrwyr bysys a thacsis i helpu i chwilio amdanyn nhw wrth eu gwaith.

Mae Charlotte Bevan yn cael ei disgrifio fel dynes a chanddi groen gwyn, mae’n 5’8” o daldra, a faint arferol a chanddi wallt tywyll.

Mae lle i gredu ei bod hi’n gwisgo top hir du a throwsus du pan ddiflannodd hi o’r ysbyty.

Mae’n bosib y gallai hi ymddangos “wedi drysu ac yn bryderus”, yn ôl yr heddlu.