Gall rhieni sy’n cysgu ochr yn ochr â’u babi yn y gwely neu ar y soffa roi’r plentyn mewn perygl o syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS).

Ond dyw’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal (NICE) heb fynd mor bell a dweud wrth rieni am atal yr arfer, gan gyfaddef bod gweithwyr iechyd proffesiynol mewn sefyllfa amhosibl oherwydd gwrthdaro gyda chyngor bwydo ar y fron.

Yn lle hynny, mae’r canllawiau a gyhoeddwyd heddiw wedi’u diweddaru ac yn bwriadu gwneud rhieni’n ymwybodol o’r cysylltiad rhwng cysgu gyda’u babi mewn gwely, ar soffa neu ar gadair a’r risg cynyddol o SIDS i blant hyd at flwydd oed.

Mae’r risg yn fwy tebygol os yw rhiant, gan gynnwys partner, yn ysmygu, yfed alcohol neu’n cymryd cyffuriau cyn cysgu gyda’u babi, neu os yw’r babi wedi ei eni’n gynnar neu gyda phwysau geni isel.

Mae mwy na 200 o fabanod yng Nghymru a Lloegr yn marw’n annisgwyl yn eu cwsg bob blwyddyn heb reswm amlwg.

Dywedodd yr Athro Mark Baker, cyfarwyddwr ymarfer clinigol NICE, ei fod yn deall y gallai’r canllawiau newydd fod yn ddryslyd, ond ei fod yn credu ei bod yn well i rieni wneud penderfyniadau unigol am gysgu ochr yn ochr â’u babi.

Mae’r Adran Iechyd yn parhau i gynghori mai’r ffordd fwyaf diogel i fabi gysgu yw ar ei gefn, yn ei grud ei hun neu mewn basged Moses yn ystafell y rhieni am y chwe mis cyntaf.