Mae staff sifil yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi pleidleisio o blaid mynd ar streic tros gyflogau.

Mae aelodau o undeb Unsain, sydd hefyd yn cynnwys swyddogion cymunedol ac arbenigol, wedi cefnogi’r gweithredu diwydiannol fel protest tros gynnig o godiad cyflog o 1%.

Gobaith yr undeb yw cael 3% yn fwy o gyflog i’w haelodau, wedi i gyflogau aros yn eu hunfan dros y tair blynedd ddiwethaf.

“Mae staff yr heddlu wedi cael digon ac maen nhw rŵan yn barod i weithredu,” meddai’r ysgrifennydd cyffredinol, Dave Prentis.

“Rydym yn galw ar gyflogwyr yr heddlu i ail-ystyried y cynnig tal diweddaraf.”

Bydd Pwyllgor Sector yr Heddlu Unsain yn cwrdd i drafod y camau nesaf yn y man.

Fe wnaeth tua 60% o aelodau Unsain wnaeth bleidleisio ddweud eu bod o blaid streicio.